Hefyd, fel dyn ni ar y pwnc, roeddwn i’n darllen hen byst bore ‘ma a des i dros y post ‘ma o Ordovicius.
Wel, allaf i ddim siarad am Abertawe, er dw i ddim wedi sylwi gwahaniaeth. Ond gallaf i siarad am Brifysgol Abertawe. Gyda’r newid o enw, mae’r Brifysgol wedi prynu arwyddion newydd. Dw i’n hapus iawn iawn achos bod pob arwydd yn rhoi’r Gymraeg cyntaf. Dim ond y prif arwydd yw eithriad. Mae e’n darllen “Swansea University/Prifysgol Abertawe”.
Wrth gwrs, byddai fy newis yn cael pob arwydd gyda Chymraeg cyntaf. Dw i ddim yn gwybod pam ddewisason nhw i ysgrifennu Swansea University cyntaf, ond dyna ni.
Ddoe, yn y drafodaeth ‘na, cododd un peth – arwyddion heol. Mae pobol yn cwyno ni allan nhw ddeall nhw – maen nhw’n drysu.
Dywedodd unrhywun “Pam ddim colli’r Saesneg yn gyfan gwbl? Os dych chi’n mynd i’r Roeg, dych chi’n gweld arwyddion yn Saesneg A Groeg? Wrth gwrs ddim! Felly, os mae pobol yn ffeindio’r arwyddion dwyieithog yn drysu, cewch wared ar Saesneg.” Datrysir problem.
Swnio da i fi! 



Yr arwyddion heol yw’r fallback complaint gan bobl sydd eisiau cwyno am yr iaith heb orfod meddwl am yr hyn maen nhw’n cwyno amdano. I fi, mae’n ffordd ysgafn o gyfleu na ddylwn i sgwrsio â’r person. Ychydig tebyg i prayer in schools yn yr Unol Daleithiau. Mor fuan â chlywaf, “and they’re kicking God out of our schools,” gwn y mae’n amser i rhoi’r gorau i wrando.
Yr arwyddion heol sy’n hurt yw’r rheiny sy’n sillafu gair Cymraeg mewn ffordd Saesneg, megis Caerffili a Caerphilly, neu Merthyr Tudful a Merthyr Tydfil, ac yn y blaen. Er mwyn dyn, dyna wastraff amser.
Ond wrth gwrs, dadl erbyn cael arwyddion dim ond yn y Gymraeg yw diffyg mapiau Cymraeg. A ydych chi’n gwybod ble i ganfod map Cymraeg? Dwi ddim. Yn achos Groeg, does angen sut i siarad yr iaith Roeg er mwyn gyrru yno. Gellir edrych ar fap Groeg, gweld enw lle Groeg ar yr arwyddion a chyrraedd rhywle heb wybod ystyr y geiriau. Ond os rydw i’n edrych ar fy map Prydain gydag awydd mynd i Hay on Wye, ni fyddai arwyddion Cymraeg-yn-unig o unrhyw help.
By: Chris Cope on 3 Gorffennaf 2008
at 10:15 yb