Wel, doeddwn i ddim yn siŵr a dylwn i ysgrifennu am hwnna neu ddim. Ond mae fy ffrindiau’n cadw dweud wrtha i “dylet ti fod balch o dy hunan”, ac…wel…ydw. Dw i byth yn disgwyl i ennill, dyna am siŵr!
Beth bynnag, cystadlais i yn y 2008 Eisteddfod Rhyn-gol gyda’r canlyniadau ‘ma:
Categori: Cerdd: Y Ddinas
Ail
Categori: Traethawd: Cymru
Ail
Yn amlwg, roedd y Brifysgol Abertawe yn hapus iawn hefyd. :O)
O, ac yn siarad am y Brifysgol, roeddwn i wrth ‘y modd gweld bod yr arwyddion newydd ar y campus yn dangos Cymraeg cyntaf ac ail Saesneg! Rwy’n credu bod ni’r unig le yn Abertawe lle Cymraeg yw cyntaf ar arwyddion! Da iawn Prifysgol Abertawe!


