Roeddwn i’n mor grac y dydd arall achos does dim isdeitlau ‘da fi. Wel mae isdeitlau ‘da fi, ond dim isdeitlau Cymraeg.
Felly, ffoniais i Virgin Media i ofyn shwd troi nhw ymlaen. Dywedodd y dyn cefnogwr cwsmer Pakistani “Mae flin ‘da fi ond dwyt ti ddim yn gallu i gael hynny yng Nghymru.”
“Beth?!!!” gwaeddais yn y ffôn “Cenedl ddwyieithog yw Cymru! Dylwn i gael isdeitlau yn Gymraeg!”
“Na.” meddai. “Pam dych chi moyn nhw beth bynnag?”
Fel mae’n bosibl y rwyt ti’n gallu dychmygu beth feddyliais am y sylwad hwn! Lansiais i mewn araith lem, mynd ymlaen am shwd mae e’n fy hawl i gael isdeitlau Cymraeg os ydw i foyn nhw. Rwy’n byw yng nghenedl ddwyieithog ac mae’r iaith cenedl yw Gymraeg, ac yn y blaen.
Dywedodd y dyn dim ond “Pam?” eto ac eto! Rhois y gorau i ar ôl i gyfnod ond doeddwn i ddim yn hapus.
Byddet ti’n meddwl bod byddai rhywun o wlad ddwyieithog fel Pakistan yn deall, fyddet ti?
Felly, nawr mae cwest newydd ‘da fi. Rwy i moyn isdeithlau Cymraeg o Virgin Media a bydda i’n gwneud fy ngorau i weld y bydd nhw’n cael eu gweithredu. Dymunwch lwc i fi. Rwy’n mynd angen fe.



Wi’n dymuno cyfiawnder iti nid lwc. Dyma’r pris mae’r Cymry o argyhoeddiad yn gorffod talu ond daw dydd!
By: ceri wyn on 18 Ionawr 2008
at 6:43 yb
Mae hynna’n warthus ac y tipyn ojoc i ddweud y gwir.
Dylet ysgrifennu at dy AC ac AS lleol a Rhodri Glyn Thomas, Gweinidog Diwylliant y Cynulliad.
Roedd ymateb y gwr ar y ffôn yn siomedig. Cefais ymateb tebyg pan ffoniodd rhywun fi o NTL yn gofyn pam roeddwn am newid i BT. Dwedais bod BT yn cynnig gwasaneth Cymraeg o doedden nhw ddim ac dywedodd o “Ia, ond os ti’n anwybyddu hynny, mae ein prisiau ni lot gwell” (yn Saesneg ddwedodd o hyn wrth gwrs!)
By: Rhys Wynne on 18 Ionawr 2008
at 4:57 yh
Wrth gwrs! *sigh*
Syniad da, diolch! Rwy’n bwriadu i ddechrau wythnos nesaf gyda llythyr i’r llywydd Virgin Media. Rwy’n meddwl gwneud yr un â thi – dyfynnaf arian.
Ond, rwy i moyn ffonio’r wasg hefyd. Os rwy’n gallu i ddiddori nhw….wel….mwy effaith, wyt ti’n gwybod?
By: Peggi on 18 Ionawr 2008
at 5:46 yh
Byddai Golwg yn siwr o fod â diddordeb, ac efallai’r BBC.
By: Rhys Wynne on 19 Ionawr 2008
at 4:03 yh